Paratowyd mapiau cyntaf o Gaerfyrddin gan John Speed (1552-1629) yn ystod ei ymweliad tridiau ȃ’r dref ym mis Medi 1606.
Fe’i cyhoeddwyd gyntaf ym 1612 yn ‘Speed’s History of Great Britain’ ac yn atlas mapiau ‘The Theatre of the Empire of Great Britain’.
Cyhoeddodd Speed ddau fersiwn o’i arolwg o Gaerfyrddin. Printiwyd yr un lliw gyda’i fap o Gymru. Ymddangosodd yr un du a gwyn yng nghornel ei fap o Sir Gaerfyrddin.
Yn 1969 mabwysiadodd y Gymdeithas Ddinesig logo yn seiliedig ar y fersiwn cyntaf, gan gynnwys dail y dderwen yn y llythrennu.