Garddio a Phlannu Coed

Mae Mrs Molly Thomas a’i thîm bychan o weithwyr ymroddedig wedi parhau i arddio yng nghanol y dref ac yn yr Amgueddfa. Os byddwch yn teithio i Gaerfyrddin o’r Gorllewin yn ystod y gwanwyn, byddwch yn sylwi ar fôr o gennin Pedr oddi ar y trogylch. Plennir rhain gan Molly a’i thîm i roi croeso cynnes Cymreig i ymwelwyr ȃ thref Caerfyrddin.

Diolch o galon hefyd i Gyfeillion yr Amgueddfa am eu rhodd tuag at brynu planhigion ar gyfer tir yr Amgueddfa.

Mae’r Clwb Roteri hefyd wedi cydnabod eu gwaith caled a’u hymroddiad.

Mae croeso bob amser i wirfoddolwyr.