Croeso

Mae Cymdeithas Ddinesig Caerfyrddin yn gweithio i arbed cymeriad unigryw’r dref ac i annog datblygiadau newydd da. Dechreuodd y Gymdeithas Ddinesig ym 1968 yn sgil y cynllun i ddymchwel rhannau helaeth o’r hen dref. Mae diogelu cymeriad y dref yn wyneb newidiadau hanfodol a datblygu economaidd yn codi cwestiynau sy’n effeithio ar bob un ohonom. Os cawsoch eich geni a’ch magu yng Nghaerfyrddin neu os ydych wedi symud yma i fyw, eich consyrn chi am orffennol a dyfodol y dre yw’r ffordd orau i’w diogelu. Carmarthen Civic Society logo